Dos poemas de Llyr Gwyn Lewis (Bilingüe)




LIBERTAD

Apago la radio digital, me vuelvo
hacia el pequeño aparato de longitud de onda larga; giro
el dial, de modo que la voz RP  se atenúa en
una tormenta de espléndidos zumbidos. En esa nieve sonora,
en la neblina de lo analógico, las

ondas se expanden y yo, por mi parte,
exhalo un suspiro de alivio,
libre de las líneas rectas de lo digital.
Y descubro, entre las estaciones, que
la radio se deleita
en la ambigüedad de las ondas.

Ahí, en la amplitud entre chasquido
y crujido, hay un solo átomo
del nacimiento del universo,
que no puedo ver ni escuchar sino
como de fondo del fondo, o como
si viera en la mañana, sin mis anteojos.

No hay nadie ahí que escuche ese átomo
excepto yo en mi escritorio en la profundidad de la noche,
el átomo que vibra, para
persuadirme de que el ayer no está en decadencia,
que las edades del universo están acá y que
el mañana ya es culpable. En este átomo

está cada amor que tuve alguna vez
en una larga lista enmarcada prolijamente,
en el asombro de las primeras luces. Más allá
de cada elección y decisión, me alimento

de cada segundo de posibilidad,
me embriago de todo lo que hiciste y
que no hice, y de todos los demás también. Y a través
de los zumbidos y crujidos, veo
los átomos de las ondas que continúan reflejando las edades,
apago la radio, y escucho el ruido
de la tormenta sobre la superficie del sol.


PASTO

Tarde de un martes en el campo del Eisteddfod yr Urdd,
5 de junio de 2012


El Parque estaba lleno de gente, y la neblina había llegado,
húmeda, de las montañas para acercarnos,
las voces de los coros en el viento mezcladas con los gritos de la feria,
la tierra ofrecía bajo nuestros pies su aroma fresco,
y el verano deseaba escabullirse debajo del manto de la lluvia.

Y aunque las nubes y Eryri* eran muros,
sentíamos el deseo de lanzarnos resbalando por el barro
a través de la entrada y de los huecos en las paredes de la antigua mansión
para salirnos del cauce sin vergüenza a través de los campos de trigo,
los chicos y las chicas trepaban el camino,

para ver, para observar, para gritarle fuerte a la marea
que no cedía esas semillas al capricho del viento del mar,
resueltas como estaban a polinizar todas las esquina del mundo,
de observarlas, veríamos que el pasto florece
en la metrópolis de la hierba verde.


* Eryri: (Snowdonia en inglés) es una región mayormente montañosa del  noreste de Gales, parque nacional que alberga Yr Wyddfa (Snowdon), la montaña más alta del país.

(Versiones de Luciana Cordo Russo)


***

RHYDDID

Dwi’n diffod y radio digidol, yn dod yn f’ôl
at y set fach donfedd hir; yn troi’r
olwyn, fel bod y llais RP yn pylu’n
storm o hisian braf. Yn yr eira clywedol
hwnnw, yn niwl yr analog, mae’r

tonfeddi’n ymestyn, a minnau’n
anadlu ochenaid o ryddhad,
yn rhydd o linellau syth y digidol.
A chaf, rhwng gorsafoedd, fod
y radio’n ymhyfrydu
yn amwysedd y tonfeddi.

Yno, yn yr ehangder rhwng cracl
a gwich, mae un gronyn
o eni’r bydysawd,
na alla i mo’i weld na’i glywed, ond
fel cefndir i gefndir, neu fel
be wela’ i’n y bore, heb by sbectol.

Does ‘na neb a glyw’r gronyn hwnnw
ond fi wrth fy nesg yn nyfnder nos,
y gronyn sy’n dirgrynu, i’m
darbwyllo nad ydi ddoe ar drai,
bod oesoedd y bydysawd yma, a bod
fory eisoes ar fai. Yn y gronyn hwn

yr erys pob cariad fu gen i erioed,
yn un rhes hir wedi’i fframio’n dwt, yn
rhyfeddod y golau cyntaf. Tu hwnt
i bob dewis a phenderfyniad, caf
giniawa ar bob eiliad o bosibilrwydd,

gloddesta ar bopeth wnest ti, ac
na wnes, a’r lleill i gyd hefyd. A thrwy’r
hisian a’r gwichian, dwi’n gweld
gronynnau’r tonfeddi’n dal drych i’r oesoedd
yn diffodd y radio, ac yn clywed sŵn
storm ar wyneb yr haul.


GWAIR

Prynhawn Mawrth ar faes Eisteddfod yr Urdd,
5 Mehefin 2012


Roedd y Parc yn llawn pobol, a’r niwl wedi dod
o’r mynyddoedd i’n tynnu, yn wlithog, yn nes at ein gilydd,
lleisiau’r corau ar y gwynt yn gymysg â sgrech y ffair,
y tir yn rhoi dan ein traed ei arogl ffres i’n ffroenau,
a’r haf wedi mynnu sleifio i mewn dan gwrlid y glaw.

Ac er bod y cymylau ac Eryri’n furiau,
yr oedd arnom ysfa i frysio’n llithrig drwy’r mwd
allan drwy’r adwy a’r bylchau yn waliau’r hen blas
i orlifo’n ddig’wilydd drwy’r caeau ŷd,
yr hogia a’r genod yn rhedeg i ben y lôn,

i wylio, i weld, i weiddi yn braf wrth y llanw
nad ildiai’r hadau hyn i fympwy gwynt y môr,
eu bod yn benderfynol o beillio un gornel o’r byd,
ac o’u gwylio, gwelem fod y gwair yn blaguro
yn brifddinas o laswellt.
ac o’u gwylio, gwelem fod y gwair yn blaguro
yn brifddinas o laswellt.

No hay comentarios. :

Publicar un comentario